Teyrnged i Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu - BBC Cymru Fyw ─ BBC

http://bbc.in/2hfKBxB Teyrnged 360° gan BBC Cymru Fyw i'r bardd Hedd Wyn a'r tirwedd a'i ysbrydolodd.

Ar ganmlwyddiant ei farwolaeth, dyma deyrnged arbennig i'r bardd Hedd Wyn gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, chwech wythnos cyn i'w gerdd, Yr Arwr, ennill Cadair yr Eisteddfod.

Mae'r fideo'n seiliedig ar un o gerddi mwyaf adnabyddus Cymru, sef 'Englynion Coffa Hedd Wyn' gan R Williams Parry. Ac mae dau o sêr presennol Cymru wedi cyfrannu at y darn hefyd. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn arbennig gan Cian Ciarán o'r Super Furry Animals a'r actor Julian Lewis Jones sy'n darllen y farddoniaeth.

Mae'r ffilm wedi ei chynllunio i gael ei gwylio drwy benwisg rhith wirionedd (VR) a chlustffonau. Symudwch eich ffôn, neu lusgwch y llygoden i edrych o gwmpas. Trowch y sain ymlaen i gael y profiad gorau.


<style>.embed-container { position: relative; padding-bottom: 56.25%; height: 0; overflow: hidden; max-width: 100%; } .embed-container iframe, .embed-container object, .embed-container embed { position: absolute; top: 0; left: 0; width: 100%; height: 100%; }</style><div class="embed-container"><iframe src="https://www.youtube.com/embed/H9L1gY_oPJ4" frameborder="0" allowfullscreen></iframe></div>

Watch Video on YouTube Watch Full-Window Video